Skip to start of content. Skip to main navigation.
Transport Benevolent Fund Logo Transport Benevolent Fund - Here When You Need Us  Join TBF

 About Us How we help News What's Coming Contact Us

Wales FlagCRONFA LES CLUDIANT

Mae Cronfa Les Cludiant yn elusen aelodaeth gofrestredig (Rhif 1058032) sy’n bodoli i helpu’r rheiny sy’n gweithio yn y diwydiant cludiant cyhoeddus yng Nghymru, Lloegr a’r Alban (ynghyd â’u dibynyddion uniongyrchol) pan fyddant mewn angen, caledi neu drallod.

Mae’n costio £1 yr wythnos i fod yn aelod, ac mae’r tâl hwn yn cynnwys yr aelod, ei bartner/ei phartner a’u plant. Mae ein llyfryn yn amlinellu manteision bod yn aelod, ac mae llawer mwy o wybodaeth ar ein gwefan. Mae hyn i gyd yn Saesneg. Diben y daflen hon yw eich cyflwyno i’r deunydd arall sydd ar gael.

Mae ein budd-daliadau’n cynnwys cymorth ariannol tymor byr lle mae problemau’n codi, taliadau ar gyfer therapïau meddygol cyflenwol (megis osteopathi, meddyginiaeth naturiol a chwnsela), cymorth cyfreithiol (ond nid ar gyfer materion sy’n gysylltiedig â’ch cyflogaeth) a chymorth gyda chost profion meddygol neu sganiau lle na ellir sicrhau’r rheiny’n gyflym fel arall.

Ni allwn helpu fel arfer gyda chostau llawdriniaethau meddygol, angladdau, offer optegol na thriniaeth ddeintyddol, er efallai y gallwn gynnig peth cymorth mewn amgylchiadau eithriadol . Un o amodau bod yn elusen yw bod ein hymddiriedolwyr yn gorfod ystyried ceisiadau am gymorth – ni allwn addo helpu gyda phob cais a dderbyniwn.

Rydym yn croesawu gweithwyr cludiant cyhoeddus p’un a ydynt yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel iaith gyntaf. Mae gwasanaethau cyfreithiol ar gael trwy ein cyfreithwyr yn Llandudno, a ddewiswyd am eu bod yn medru gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn fwy na pharod i aelodau ddefnyddio ymarferwyr eraill sy’n medru siarad â hwy yn eu hiaith gyntaf ar gyfer triniaethau meddygol cyflenwol a chyfleusterau eraill. Gellir cyflwyno cais am ad-daliad yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Ein swyddfa yn Llundain yw’r prif bwynt cyswllt sy’n cyflwyno’r ffurflenni angenrheidiol ac ati i alluogi aelodau i wneud trefniadau. Rydym yn flin bod ein staff yn siarad Saesneg yn unig ond, os bydd anhawster, byddwn yn trefnu bod siaradwr Cymraeg yn delio â’r cais neu’n manylu ar yr wybodaeth a geir yn ein llyfryn ac ar ein gwefan.

Byddwn yn falch o ystyried unrhyw awgrymiadau gan aelodau sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf ynghylch sut gallwn ni wella ac estyn ein gwasanaethau iddynt hwy a’u cydwladwyr.

End of page content. More information follows. Skip to start of content. Skip to main navigation.

tbf - help when you need it...in confidence